Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?


“Teachers, along with parents, are vital in their role of encouraging in young children an awareness of the value and pleasure to be gained through reading and in developing their literacy skills. Children must experience pleasure and interest from reading and in order for them to choose to read themselves from the earliest stages, they must be fully involved in the reading process” (Teachers.org.uk, 2018). Mae’r gwefan yma yn credu dylai darllen am bleser cael ei feithrin yn y blynyddoedd cynnar gan oedolion o’u hamgylch.


Mae darllen er mwyn pleser yn bwysig iawn ar gyfer datblygiad y plentyn ei hun. “Children use these story patterns for their own purposes to go over and shape the raw material of their own lives” (Whitehead, 2010, t.112). Mae Whitehead (2010) yn dadlau fod darllen er mwyn pleser gallu helpu plant mewn senarios tebyg a sut fydden nhw’n delio gyda’r sefyllfa.

Yn ôl (Readingagency.org.uk, 2018) mae yna dystiolaeth cryf sy’n cysylltu darllen er mwyn pleser a chanlyniadau addysg. Maen nhw hefyd yn nodi bod cyrhaeddiad academaidd yn hanfodol bwysig, ond mae’r manteision o ddarllen er mwyn pleser yn mynd y tu hwnt i hyn ac ymestyn trwy fywyd person. Mae’r ddogfen yma yn cynnwys y dystiolaeth:


Mae’r ddogfen wedi cael ei greu er mwyn dangos canlyniadau PISA yn 2009. Yn y ddogfen mae yna nifer o dablau a graffiau i arddangos y cysylltiad rhwng y plant sy’n darllen er mwyn pleser a pa mor well maen nhw’n eu gwneud i gymharu â phlant sydd ddim yn darllen er mwyn pleser. Er hyn wnaeth y profion dangos bod genres gwahanol yn cael effaith gwahanol ar ganlyniadau darllen PISA. Gellir dadlau fod darllen er mwyn pleser ddim yn dilyn at lwyddiant academaidd cyflawn dim ond mewn rhai ardaloedd. Mae OECD (2010) yn cefnogi hyn trwy brofi bod 65% o fechgyn yn darllen papur newydd am bleser i gymharu â 59% o ferched, ond mae bechgyn bron blwyddyn academaidd tu ôl i ferched yn flwyddyn academaidd (Gov.uk, 2018). Mae hyn yn awgrymu efallai bod gwahaniaeth rhwng merched a bechgyn sy’n darllen er mwyn pleser ac yn profi nid yw darllen er mwyn pleser yn golygu llwyddiant academaidd.

Ffoneg a rhigymau

Cam cyntaf i ddarllen yw rhyigymau. “Young children’s earliest encounters with rhymes and poems teach them that they can join in with the highly predictable rhyming end words” (Whitehead, 2010, t.134). Mae rhigymau yn galluogi plant i dorri geiriau lawr a chlywed y synau sy'n ffurfio geiriau wrth baratoi ar gyfer darllen ac ysgrifennu. Mae ffoneg yn bwysig iawn wrth i blant datblygu eu darllen. “The psycholinguist Goodman (1967) maintained that children need to draw on three of what he called cueing strategies: grapho-phonic, sematic and syntactic” (Driscoll et al, 2015, t.10). Y dechneg sy’n cael ei ddefnyddio yw ffoneg synthetig sy’n debyg iawn i grapho-phonic lle mae’r plentyn yn cael ei ddysgu i adeiladu’r gair. Trwy ddysgu darllen gyda ffoneg dylai plant rhwng 4 i 5 blwydd oed gallu clywed a dweud synau mewn geiriau mewn trefn y maent yn digwydd a chysylltu synau i lythrennau'r wyddor.

Sach stori

Mae sach stori yn dechneg newydd i annog plant i ddarllen er mwyn pleser. Mae Borough (2018) yn disgrifio sach stori fel sach sy’n cynnwys llyfr plant gyda phropiau cysylltiedig e.e. dillad gwisgo lan, pypedau neu ffigurau bach sy’n cynrychioli’r cymeriadau ac eitemau allweddol o’r stori. Mae’r fideo isod yn trafod yr holl fanteision sydd gan sach stori.



Un o’r manteision mwyaf o sach stori yw bod nhw’n multisensory. Mae hyn yn fuddiol ar gyfer pob plentyn ond enwedig plant sydd gydag anabledd neu anghenion addysgu arbennig. Trwy ddefnyddio eu pump synhwyrau gall y plant yma cael dealltwriaeth a wir bleser o’r stori.



Rhestr cyfeirio

Borough, D. (2018). DMBC - Story Sacks. [online] Dudley.gov.uk. Available at: http://www.dudley.gov.uk/resident/early-years/for-providers/childminders-area/childminding-network/toy-library/story-sacks/ [Accessed 8 Feb. 2018].

Driscoll, P., Lambirth, A. and Roden, J. (2015).  The Primary Curriculum. A Creative Approach. 2nd ed. London: SAGE Publications.

Gov.uk. (2018). Research evidence on reading for pleasure [online] Available at: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/284286/reading_for_pleasure.pdf [Accessed 7 Feb. 2018].

Readingagency.org.uk. (2018). Why is reading for pleasure important? | Reading Agency. [online] Available at: https://readingagency.org.uk/news/blog/why-is-reading-for-pleasure-important.html [Accessed 6 Feb. 2018].

Teachers.org.uk. (2018). National Education Union (NEU) | NUT - The Teachers' Union. [online] Available at: https://www.teachers.org.uk/reading-for-pleasure/early-years-foundation-stage [Accessed 6 Feb. 2018].

Whitehead, M. (2010). Language and literacy in the early years 0-7. 4th ed. Los Angeles: SAGE Publications, p.112.

Comments

  1. Yn eich blog rydych yn nodi bod bechgyn bron blwyddyn academaidd tu ol i ferched, sut gallen ni annog bechgyn i darllen mwy er mwyn cau'r bwlch? Hefyd oes na unrhyw tystiolaeth bod sach stori/ darllen er mwyn pleser yn helpu datblygiad plant anabl?

    ReplyDelete
  2. Cafodd ymchwil ei wneud ar fechgyn o ddosbarth blwyddyn 2 gydag ystod o alluoedd darllen i weld sut oedden nhw'n ymateb i sach stori.
    “Every practitioner found it very easy to engage the intervention group in
    the Storysack activities; one practitioner stated that it was ‘easy to keep them on task’.
    Likewise the intervention group were all very enthusiastic when asked for their overall
    response to the Storysack activities, with one boy stating ‘I don’t want to stop [the
    Storysack sessions” (Sanderson, 2015).
    Mae’r ymchwil yma yn dangos mae bechgyn yn cymryd diddordeb mewn darllen a llythrennedd os mae’n cael ei wneud mewn ffordd ddiddorol ac ymgysylltu.

    Nid yw sach stori neu ddarllen am bleser yn helpu plant anabl ond mae yn helpu plant gydag anawsterau dysgu. Yn ôl (National Literacy Trust, 2017) mae sach stori yn ysgogi datblygiad iaith ond fwy nag unrhyw beth yn wneud darllen yn fwy cofiadwy.

    Rhestr cyfeirio
    Sanderson, L. (2015). Exploring the Impact of Using Storysacks to Engage Year 2 Boys in Readin. M.A. Cardiff Metropolitan University.
    National Literacy Trust. (2017). How to make and use a story sack | National Literacy Trust. [online] Available at: https://literacytrust.org.uk/resources/how-make-and-use-story-sack/ [Accessed 20 Apr. 2018].

    ReplyDelete

Post a Comment