Posts

Showing posts from March, 2018

Gall athrawon eu cyfnewid gyda technoleg yn y dyfodol?

Image
R ô l yr athro Mae Faculty.londondeanery.ac.uk (2012) yn diffinio rôl yr athro fel tri pheth: ·          Rheoli'r grŵp ·          Rheoli gweithgareddau ·          Rheoli'r dysgu Mae hyn yn ddiffiniad briff iawn o rôl yr athro gan fod dyletswydd arnyn nhw i wneud llawer mwy. Mae Stephens a Crawley (1994) yn credu bod rôl yr athro yw sicrhau bod y gwersi yn ddiddorol, yn hygyrch a llawer meddwl wedi mynd mewn iddo, cynllunio ar gyfer ac asesu gwaith myfyrwyr, a gweithio'n adeiladol gyda chydweithwyr. I’r gwrthwyneb mae Moore (2012) yn diffinio rôl yr athro “The charismatic teacher is often described as coming into the classroom deliberately unprepared- solely reliant on his or her subject knowledge, inherent popularity, and intangible ability to enthuse and inspire students.” Mae hyn yn mynd erbyn rôl yr athro ystrydebol gan fod o’n nodi bod yr athro ...

Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch

Image
Sut mae diffinio e-ddiogelwch? Mae e-ddiogelwch yn derm sy’n dod yn bwysig iawn mewn ysgolion. Dyma ddiffiniad manwl o e-ddiogelwch: “E-safety is a term which means not only the internet but other ways in which young people communicate using electronic media, e.g. mobile phones.   It means ensuring that children and young people are protected from harm and supported to achieve the maximum benefit from new and developing technologies without risk to themselves or others.” (CSF - Children's Safeguarding, 2017) Mae plant a phobl ifanc gallu wynebu nifer o risgiau heb sylweddoli. Gallwch roi'r risgiau o e-ddiogelwch mewn i bedwar categori sef cynnwys, cyswllt, ymddygiad a masnachol. Dyma ddisgrifiad o bob risg: ·          Risgiau cynnwys: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn agored i ddeunydd niweidiol e.e. seibr fwlio ·          Risgiau cyswllt: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn cymryd ...

Sut gall athrawon dddefnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd?

Image
Beth yw technoleg mewn dosbarth cynradd? Yn ddiweddar mae technoleg yn cael ei ddefnyddio mwy a mwy mewn addysg. “Computing and digital literacy. These three words encompass a treasure trove of tools and devices- laptops and netbooks, tablets and MP3 players, cameras, robots, visualisers and voice recorders, to name but a few” (Smith and Dawes, 2014). Mae’r adnoddau yma gallu cael eu defnyddio i ddysgu unrhyw beth o fewn wahanol bynciau. Mae technoleg yn annog addysg tu fewn a thu allan i ysgol. Mae O’Leary a Parker (2004, dyfynnir yn John and Wheeler, 2008) yn pwysleisio’r potensial sydd gan TGCH i annog dysgu tu allan o’r ysgol. Er ei fod yn seiliedig ar 'werth ychwanegol' trwy oriau ychwanegol, mae'r fenter yn darparu nifer o bosibiliadau ar gyfer personoli ymhellach. Yma, mae potensial technolegau newydd i integreiddio dysgu personol, cymunedol, cartref a'r ysgol a'r ysgol yn hollbwysig. Gelir dadlau bod technoleg yn degan newydd i’r plant a ddim...