Posts

Showing posts from April, 2018

Beth ellir ei wneud i wella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafelloedd dosbarth cynradd Cymru?

Image
Mathemateg mewn ysgol gynradd Mae mathemateg yn rhan bwysig iawn yn y cwricwlwm Cymru sydd gennym ar hyn o bryd enwedig ar gyfer cyfnod allweddol 2 (7- 11 blwydd oed). Mae mathemateg hefyd yn rhan fawr o’r cwricwlwm newydd gan Graham Donaldson a bydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru erbyn 2022. Mae rhifedd, gan gynnwys sgiliau rhifyddeg a thrin data, yn cael ei ddefnyddio'n eang ar draws y cwricwlwm, ac mae cymhwysedd mewn rhifedd yn hanfodol ar gyfer byw'n annibynnol a gweithio. Mae angen cyfleoedd rheolaidd i blant a phobl ifanc i ddyfnhau eu dealltwriaeth o rif ac, fel gyda llythrennedd (Donaldson, 2015). Mae rhifedd yn rhan o’r LNF (fframwaith llythrennedd a rhifedd) felly rhaid dysgu rhifedd yn drawsgwricwlaidd. Mae mathemateg yn bwnc craidd mewn addysg gynradd. Mae addysgu a dysgu effeithiol o fathemateg yn golygu bod yr holl blant: • Dod yn rhugl yn hanfodion mathemateg fel eu bod yn effeithlon wrth ddefnyddio a dewis yr algorithmau a'r dulliau meddy...