Beth ellir ei wneud i wella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafelloedd dosbarth cynradd Cymru?
Mae mathemateg yn rhan bwysig iawn yn y cwricwlwm Cymru sydd
gennym ar hyn o bryd enwedig ar gyfer cyfnod allweddol 2 (7- 11 blwydd oed).
Mae mathemateg hefyd yn rhan fawr o’r cwricwlwm newydd gan Graham Donaldson a
bydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru erbyn 2022. Mae rhifedd, gan gynnwys
sgiliau rhifyddeg a thrin data, yn cael ei ddefnyddio'n eang ar draws y
cwricwlwm, ac mae cymhwysedd mewn rhifedd yn hanfodol ar gyfer byw'n annibynnol
a gweithio. Mae angen cyfleoedd rheolaidd i blant a phobl ifanc i ddyfnhau eu dealltwriaeth
o rif ac, fel gyda llythrennedd (Donaldson, 2015). Mae rhifedd yn rhan o’r LNF
(fframwaith llythrennedd a rhifedd) felly rhaid dysgu rhifedd yn
drawsgwricwlaidd.
Mae mathemateg yn bwnc craidd mewn addysg gynradd. Mae
addysgu a dysgu effeithiol o fathemateg yn golygu bod yr holl blant:
• Dod yn rhugl yn hanfodion mathemateg fel eu bod yn
effeithlon wrth ddefnyddio a dewis yr algorithmau a'r dulliau meddyliol priodol
priodol, wedi'u hategu gan gysyniadau mathemategol.
• Yn gallu datrys problemau trwy gymhwyso'u mathemateg i
amrywiaeth o broblemau gyda soffistigedigrwydd cynyddol, gan gynnwys mewn
cyd-destunau anghyfarwydd a modelu senarios go iawn.
• Gallu rhesymu yn fathemategol trwy ddilyn llinell ymholi a
datblygu cyfiawnhad, dadl neu brawf gan ddefnyddio iaith fathemategol.
(DfE, 2012)
Agweddau tuag at fathemateg

Mae agwedd athro neu athrawes tuag at bwnc gallu cael effaith mawr ar ei ddisgyblion. “As in all areas of education the way that teachers understand mathematics themselves and their beliefs about its place in the curriculum influence the way they present it to children” (Driscoll et al, 2015). Mae llawer o athrawon yn canolbwyntio ar sicrhau bod disgyblion gallu ateb cwestiynau arholiadau/ prawf. “While the best teaching developed pupils’ conceptual understanding alongside their fluent recall of knowledge, and confidence in problem solving, too much teaching concentrated on the acquisition of disparate skills that enable pupils to pass tests and examinations but did not equip them for the next stage of education, work and life” (Ofsted, 2012). Gall hyn gwneud i blant datblygu agwedd negyddol tuag at fathemateg gan nad yw hyn eu helpu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae Smith a Dawes (2014) yn cefnogi hyn a chredu mai rhoi cyfleoedd i blant ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn ymwneud yn ôl ag amcanion penodol addysgu a dysgu mathemateg - sef, i gyfrannu at well dealltwriaeth o'r byd, gan wneud mathemateg yn ystyrlon a go iawn.
Rhoddwyd holiadur gan Joffe a Foxman (1986) i bobl ifanc 7-15 oed a daethwyd o hyd i wahaniaethau dynol diddorol ynghylch agweddau tuag at fathemateg. Roedd merched yn tueddu i fod yn llai hyderus am eu perfformiad mathemategol ac i ymgartrefu eu hunain, tra bod bechgyn yn tueddu i fynegi mwy o ddisgwyliadau o lwyddiant. Mae’r wybodaeth yma ddim yn hollol ddibynadwy gan fod o’n nifer o flynyddoedd yn ôl. Er hyn wnaeth astudiaeth ddiweddar yn defnyddio data lefel disgyblion sy'n cysylltu data ar gyrhaeddiad ac arholiad yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 i 4 i nodweddion disgyblion o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD). Y canfyddiadau allweddol o’r ymchwil oedd:
1. Bod llwyddiant
merched yn uwch na bechgyn,
2. Yn
gyffredinol, roedd gan ddisgyblion â chyfraddau absenoldeb is lefel uwch o
gyflawniad academaidd.
3. Yn
gyffredinol, roedd gan ddisgyblion a enwyd yn gynharach yn y flwyddyn
academaidd lefel uwch o gyflawniad academaidd na disgyblion a anwyd yn
ddiweddarach yn y flwyddyn.
(Gov.wales, 2018)
Mae’r ddau ymchwil yma yn profi bod pob plentyn yn unigryw a
gydag agwedd gwahanol tuag at fathemateg.
Mae’n bwysig iawn i ddisgyblion teimlo’n hyderus wrth drio
pethau newydd o ran mathemateg. “If every pupil every time gave correct responses
to every task we gave them in mathematics then we would have to question
seriously whether we were challenging our pupils sufficiently” (Haylock and
Thangata, 2007). Dyma rhai dulliau gall athrawon defnyddio wrth ddysgu
mathemateg:
·
Byddwch yn sensitif i ddisgyblion unigol sy'n
ymddangos yn ansicr neu bryderus trwy osod targedau realistig, sicrwydd a
pheidiwch â'u rhoi dan unrhyw bwysau dianghenraid.
·
Wrth gynllunio tasgau sicrhau bod cydbwysedd rhwng her
a llwyddiant.
·
Sylweddoli bod rhaid disgyblion angen mwy o amser i
feddwl.
·
Datblygu ethos dosbarth lle mae disgyblion yn gwybod
bod yr athro yn croesawu cwestiynau.
·
Gwneud mathemateg yn hwyl i’r disgyblion felly maen
nhw am gymryd rhan.
(Haylock and Thangata, 2007)
Sut gall mathemateg cael ei ddysgu
ABCYA
Mae ABCYA yn gwefan ar-lein sy’n cynnwys gemau mathemateg.
Yr em wnes i drio ar y wefan yma oedd odrif neu eilrif yn
dibynnu pa un rydych yn dewis roedd rhaid i chi dorri’r rhifau hynny a bydd
eich sgôr yn mynd lan. Mae hyn yn em syml mae disgyblion gallu chwarae mewn
amser ei hun neu yn y dosbarth.
Bitesize
Mae Bitesize yn wefan creuwyd gan y BBC. Mae’r wefan yn addysgu
disgyblion o 3 blwydd oed gyda’r cyfnod sylfaen lan at ddisgyblion 16 mlwydd
oed i helpu gyda TGAU. Mae’r gwefan hefyd yn cynnwys 18 pwnc gwahanol nid dim
ond mathemateg.
Credaf fod y wefan yma yn ddefnyddiol iawn gan fod o’n
cynnwys clipiau fideo felly mae athrawon gallu defnyddio i esbonio pwnc newydd
i’r disgyblion a hefyd gemau hwyl ar gyfer disgyblion. Bydd hyn yn ffordd
newydd i’r disgyblion dysgu a gallu fod yn ffordd dda i ymgysylltu plant sydd
ddim gyda diddordeb mewn mathemateg.
Abacus
Mae Abacus yn becyn mae’r ysgol angen prynu i’r disgyblion ac
athrawon gallu defnyddio.
Wnes i glywed am y pecyn yma pan wnaeth ysgol gynradd St.
Nicholas dod i wneud darlith. Roedd y disgyblion ac athro yn frwdfrydig iawn
gan fod nhw gwneud popeth mathemateg trwy’r gwefan. Mae’r disgyblion yn
defnyddio’r wefan i wneud cwestiynau ar dopigau gwahanol, gweithgareddau a
gwaith cartref. Trwy gwblhau’r tri pheth yma mae’r disgyblion yn ennill
ceiniogau a gallu prynu pethau ar gyfer ei gymeriad. Mae’r athro gallu monitro
beth mae’r disgyblion yn cwblhau a hefyd marcio ei gwaith cartref. Credaf fod y
gwefan yma yn dda iawn i annog pob plentyn i wneud mathemateg oherwydd roedd
pawb yn y ddarlith yn dweud bod nhw mwynhau mathemateg trwy wneud o fel hyn.
DfE (2012) ‘National Curriculum of mathematics Key Stages 1
and 2 – Draft: National Curriculum review’. London: DfE. Available online at: http://media.education.gov.uk/assets/files/pdf/d/draft%20curriculum%20for%20mathematics%20key%20stages%201%202.pdf [Accessed Apr. 16 2018]
Donaldson, G. (2015) Successful Futures: Independent review
of curriculum and assessment arrangements in Wales. Caerdydd: Llywodraeth
Cenedlaethol Cymru.
Driscoll, P., Lambirth, A. and Roden, J. (2015). The Primary
Curriculum. A Creative Approach. 2nd ed. London: SAGE Publications.
Gov.wales. (2018). Welsh Government|Academic achievement by
pupil characteristics. [online] Available at:
http://gov.wales/statistics-and-research/academic-achievement-pupil-chracteristics/?lang=en
[Accessed 16 Apr. 2018].
Haylock, D. and Thangata, F. (2007). Key concepts in teaching
primary mathematics. Thousand Oaks, Calif.: SAGE Publications.
Joffe, L and Foxman, D. (1986) ‘Attitudes and differences:
some APU findings’, in L. Burton (ed.), Girls into Maths Can Go. London:
Cassell.
Ofstead (Office for Standards in Education) (2012)
‘Mathematics: Made to Measure’. London: Ofstead.
Smith, P. and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary
education. London: SAGE.




Sut gallwch angor mathemateg heb defnyddio technoleg? Gall yr ysgol gwneud rhywbeth fel ysgol cyfan i godi'r diddordeb men mathemateg?
ReplyDeleteUn dechneg sy’n boblogaidd iawn mewn ysgolion yw blociau lliwgar mae’r plant gallu ymuno gyda’i gilydd i helpu gweithio allan ateb. Mae plant gallu gweld hyn fel chwarae a ddim sylweddoli bod nhw gwneud mathemateg. Mae adnoddau fel hyn yn syml iawn ond gallu newid agwedd plentyn yn fawr iawn tuag at fathemateg.
ReplyDelete“In order to understand the usefulness and value of mathematics, children need to be given the opportunity to apply different stands of mathematics to different contexts” (Smith and Dawes, 2014). Esiampl o weithgaredd ysgol cyfan fathemateg yw ar ôl diwrnod mabolgampau gall pob dosbarth cael tasg i weithio allan rhywbeth o’r diwrnod. Bydd pob dosbarth gyda lefel o waith gwahanol e.e. blwyddyn 2 gweithio allan pwy oedd cyflymaf (gweithio gydag amser) a blwyddyn 6 gweithio allan pa lys wnaeth ennill trwy ddefnyddio modd, canolrif a chymedr. Bydd hyn yn ymgysylltu’r disgyblion gyda mathemateg a hefyd codi’r diddordeb.
Rhestr cyfeirio
Smith, P. and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary education. London: SAGE.