Beth yw manteision dweud stori mewn addysg cynradd?



Mae dweud stori nid yn unig yn hwyl i blant ond mae hefyd yn datblygu ei sgiliau llythrennedd a chreadigol.

Yn ôl (TeachingEnglish | British Council | BBC, 2017) dyma beth mae dweud stori gallu cynnig i blant:

Children have an innate love of stories. Stories create magic and a sense of wonder at the world. Stories teach us about life, about ourselves and about others. Storytelling is a unique way for students to develop an understanding, respect and appreciation for other cultures, and can promote a positive attitude to people from different lands, races and religions.”

Mae hyn yn dangos faint o ddyfnder sydd mewn dweud stori a sut mae’n helpu plant mewn bywyd tu allan i’r ysgol. Mae dweud stori yn rhywbeth sy’n bwysig iawn ar gyfer plant gan fod o’n dysgu sgil hanfodol mewn bywyd. Mae dweud stori yn digwydd bron pob dydd wrth drafod gyda theulu a ffrindiau. Mae’n hefyd dysgu plant i fod yn ddisgrifiadol a gorliwio wrth wneud gwaith ysgrifenedig neu ar lafar.

Mae’r diagram isod yn dangos sut yn union dweud stori yn effeithio’r ymennydd.






 Mae’r diagram yn dangos pedwar ffordd mae dweud stori yn effeithio’r ymennydd. Mae dweud stori yn cysylltu gyda’r ymennydd mewn ffordd emosiynol, greadigol trwy feddwl nôl ar brofiadau ei hun, addysgol trwy brosesu ffeithiau a gwrando trwy ymgysylltu.

Fideo

 

Mae’r fideo yma yn drafod y pwysigrwydd o ddweud stori a’i fanteision. Mae’n bwysig iawn fod y person sy’n dweud y stori yn deall y cymeriadau a hefyd awydd go iawn i rannu’r stori â chynulleidfa. “The linguistic devices of repetition, alliteration, musical refrains, rhymes and conventional metaphors can be used to support and enrich the memories of tellers and listeners.” (Whitehead, 2010, t.115)

Fel dywedais mae’n bwysig iawn defnyddio dulliau i ymgysylltu a chynulleidfa. Mae yna dechneg o fewn dweud stori sef HMMM. Dyma beth mae’n sefyll am:

  • Here (chwerthin, nawr, carnifal, meddylfryd)

  • Music (chwarae, sain ac emosiynau)

  • Mind (moesau, patrymau, dychymyg, creadigrwydd, chwarae)

  • Magic (llif, ffantasi, y byd breuddwyd, gobaith)

Mae’r dechneg yma yn cael ei gynnwys mewn dweud stori er mwyn mwynhau’r stori a chael gwared ag unrhyw ddifrifoldeb mae gan y plant. Mae awdur yn gwneud hyn trwy wneud i’r darllenwr dychmygu a phario syniadau sydd ddim fel arfer yn mynd gyda'i gilydd. Mae hyn yn gwneud i’r plant meddwl yn bellach a chofio’r stori am resymau gwahanol.

Rhywun sy’n enghraifft perffaith o ddefnyddio’r techneg HMMM yw Roald Dahl. “Dahl uses storytelling techniques that have been linked to traditional oral storytelling devices” (Adams, 2016). Un o fy hoff lyfrau gan Roald Dahl sy’n cynnwys HMMM yw Revolting Rhymes. Mae’r storiâu byr yma yn cymryd y storiâu traddodiadol a newid yr holl syniad o’r stori trwy gynnwys odl. Yn ei llyfrau mae Roald Dahl yn defnyddio dulliau i ddenu’r darllenwr i mewn a hefyd creu dirgelwch trwy wneud i’r darllenwr meddwl a gofyn ei hunain cwestiynau. Mae Dahl hefyd yn creu patrymau a rhythm yn ei storiâu trwy chwarae gyda geiriau ac yn gwneud darnau o’r stori yn gofiadwy.

Rhestr cyfeirio

Adams, D. (2016). Hmmm? Comedy, Carnival, Fantasy and Hope. The Fantastic Mr Fiction Conference. 4th November, 2016. Cardiff Metropolitan University.

TeachingEnglish | British Council | BBC. (2017). Storytelling - benefits and tips. [online] Available at: https://www.teachingenglish.org.uk/article/storytelling-benefits-tips [Accessed 12 Nov. 2017].

Whitehead, M. (2010). Language and literacy in the early years 0-7. 4th ed. Los Angeles: SAGE Publications.

Comments

  1. Rydych yn son am fanteision cyffredinol mae dweud stori yn cael ar blant ond sut mae dweud stori yn manteisio plant mewn ffordd academaidd?

    ReplyDelete
  2. Mae dweud stori yn mantieisio disgyblion mewn nifer o ffordd academaidd:
    • Yn ysbrydoli siarad pwrpasol, ac nid dim ond y stori - mae yna lawer o gemau y gallwch chi eu chwarae.
    • Yn codi'r brwdfrydedd dros ddarllen testunau i ddod o hyd i straeon, eu hail-greu, ac ati.
    • Annog ysgrifennu academaidd oherwydd bydd plant am ysgrifennu storïau a dweud wrthynt.
    • Gwella'r gymuned yn yr ystafell.
    • Gwella sgiliau gwrando.
    • Yn wir yn ymgysylltu â'r bechgyn sy'n caru'r actio.
    • Rhoi rheswm ysgogol i ddysgwyr Saesneg i siarad ac ysgrifennu Saesneg
    (Edutopia, 2014)
    Nid oes canlyniadau academaidd yn syth o ddweud stori, ond mae’n datblygu nifer o sgiliau hanfodol sy’n arwain at lwyddiant.

    Rhestr cyfeirio
    Edutopia. (2014). Why Storytelling in the Classroom Matters | Edutopia. [online] Available at: https://www.edutopia.org/blog/storytelling-in-the-classroom-matters-matthew-friday [Accessed 10 Apr. 2018].

    ReplyDelete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?