Gall athrawon eu cyfnewid gyda technoleg yn y dyfodol?
Rôl yr athro
Mae Faculty.londondeanery.ac.uk (2012) yn diffinio rôl yr
athro fel tri pheth:
·
Rheoli'r grŵp
·
Rheoli gweithgareddau
·
Rheoli'r dysgu
Mae hyn yn ddiffiniad briff iawn o rôl yr athro gan fod
dyletswydd arnyn nhw i wneud llawer mwy. Mae Stephens a Crawley (1994) yn credu
bod rôl yr athro yw sicrhau bod y gwersi yn ddiddorol, yn hygyrch a llawer
meddwl wedi mynd mewn iddo, cynllunio ar gyfer ac asesu gwaith myfyrwyr, a
gweithio'n adeiladol gyda chydweithwyr. I’r gwrthwyneb mae Moore (2012) yn
diffinio rôl yr athro “The charismatic teacher is often described as coming
into the classroom deliberately unprepared- solely reliant on his or her
subject knowledge, inherent popularity, and intangible ability to enthuse and
inspire students.” Mae hyn yn mynd erbyn rôl yr athro ystrydebol gan fod o’n
nodi bod yr athro ddim wedi paratoi. Mae Moore (2012) wedyn mynd ymlaen i esbonio
gallai'r athro ymddangos yn 'charismataidd' i'r myfyrwyr; fodd bynnag, yn
ymarferol maen nhw’n dangos sgiliau cyfathrebu effeithiol ynghyd â
dealltwriaeth gadarn a brwdfrydedd am ba bynnag bwnc neu faes pwnc sydd dan
drafodaeth. Mae hyn yn profi faint o waith mae athrawon angen gwneud mewn amser
ei hun i allu cerdded mewn i’r dosbarth wedi’i baratoi’n llwyr. Dyma beth sy’n
gwneud athro/ athrawes effeithiol trwy wneud i wersi rhedeg yn llyfn:
• yn
frwdfrydig
• wedi
trefnu'r sesiwn yn dda
• yn meddu
ar empathi gyda'r dysgwyr
• yn deall
sut mae pobl yn dysgu
• yn meddu
ar sgiliau addysgu a rheoli dysgu
• yn effro
i gyd-destun a digwyddiadau 'ystafell ddosbarth'
• yn
addysgu gyda'r arddull addysgu a ffafrir ganddynt
(Faculty.londondeanery.ac.uk, 2012)
TPCK
Nawr mae yna gyfrifoldeb ar athrawon i allu addysgu
disgyblion TGCH a chyfrifiadureg a hefyd ymgorffi y ddau bwnc mewn i wersi
arall. Creuwyd y term TPCK gan Punya Mishra a Matthew J. Koehler. “Technological
Pedagogical Content Knowledge (TPCK), which they represent as an intersection
between Content knowledge (C), Pedagogic knowledge (P) and knowledge of
technology (T)” (Koehler and Mishra, 2005). Mae pob elfen gallu cael ei gyfuno
i greu cyfuniad sy’n fwy na dim ond ychwanegu TGCh at ddulliau traddodiadol.
Mae'n dibynnu ar wybodaeth ddofn o sut y gellir defnyddio TGCh i gyrchu a
phrosesu deunydd pwnc (TCK) a deall sut y gall TGCh gefnogi a gwella dysgu
(TPK) mewn cyfuniad â PCK Mae’r diagram isod yn esbonio’r term TPCK.
Yn y diagram mae yna nifer o gyfuniadau gwahanol:
1. Gwybodaeth
dechnoleg (T): Mae gwybodaeth dechnoleg yn cyfeirio at y wybodaeth am wahanol
dechnolegau, yn amrywio o dechnolegau technoleg isel megis pensil a phapur i
dechnolegau digidol megis y Rhyngrwyd, fideo digidol, byrddau gwyn
rhyngweithiol a rhaglenni meddalwedd
2. Gwybodaeth
cynnwys (C): Rhaid i athrawon wybod am y cynnwys y byddant yn ei ddysgu a sut
mae natur y wybodaeth yn wahanol ar gyfer gwahanol feysydd cynnwys.
3. Gwybodaeth
pedagogeg (P): Mae gwybodaeth pedagogeg yn cyfeirio at ddulliau a phrosesau
addysgu ac mae'n cynnwys gwybodaeth mewn rheoli dosbarth, asesu, datblygu
cynlluniau gwersi a dysgu myfyrwyr.
4. Gwybodaeth
cynnwys pedagogeg (PCK): Mae gwybodaeth cynnwys pedagogeg yn wahanol ar gyfer
gwahanol feysydd cynnwys, gan ei fod yn cyfuno'r ddau gynnwys a'r addysgeg
gyda'r nod o ddatblygu arferion addysgu gwell yn yr ardaloedd cynnwys.
5. Gwybodaeth
cynnwys technolegol (TCK): Mae'n awgrymu bod athrawon yn deall, wrth ddefnyddio
technoleg benodol, y gallant newid y modd y mae dysgwyr yn ymarfer ac yn deall
cysyniadau mewn maes cynnwys penodol.
6. Gwybodaeth
pedagogeg technolegol (TPK): Mae gwybodaeth pedagogeg technolegol yn cyfeirio
at y wybodaeth o sut y gellir defnyddio gwahanol dechnolegau mewn addysgu, ac i
ddeall y gall defnyddio technoleg newid y ffordd y mae athrawon yn addysgu.
7. Gwybodaeth
cynnwys pedagogaidd technolegol (TPACK): Mae gwybodaeth gynnwys pedagogaidd
technolegol yn cyfeirio at yr wybodaeth sydd ei hangen ar athrawon am
integreiddio technoleg yn eu haddysgu mewn unrhyw faes cynnwys. Mae gan
athrawon ddealltwriaeth synhwyrol o'r ymadroddiad cymhleth rhwng y tair elfen
sylfaenol o wybodaeth (CK, PK, TK) trwy addysgu cynnwys gan ddefnyddio dulliau
a thechnolegau pedagogaidd priodol.
(Schmidt et al., 2009)
Technoleg yn y dosbarth
Yn ôl ACMA (2013) mae technolegau gwybodaeth a chyfathrebu
(TGCh) wedi dod yn hollol gynhwysol yn ein cymdeithas. Yn benodol, mae plant
10-12 oed (oedran ysgol gynradd) yn adrodd eu bod yn dibynnu'n fwy ar TGCh ar
gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac ar gyfer dysgu. Os mae athrawon yn defnyddio
technoleg yn effeithiol gallen nhw wir ymgysylltu gyda’r disgyblion. Er bod o’n
bwysig cael disgyblion i ymgysylltu rhaid sicrhau bod nhw’n defnyddio technoleg
yn y ffordd gywir a gorau posib. “As teachers, we need to help children to see
that there is more to Internet research than ‘cutting and pasting’ from
Wikipedia into a Word document. The key is to build experience of formulating
questions, sift through sources to find relevant and reliable information, then
use it in a meaningful way (Smith and Dawes, 2014). Mae’n bwysig cofio bod
technoleg ardderchog angen athrawon ardderchog.
Mae Bryant (2016) yn nodi er bod llawer o athrawon yn
gyffrous gan dechnoleg ac sydd â diddordeb yn y ffyrdd y gallant ei ddefnyddio
i wella eu haddysgu, mae eraill yn pryderu am ei ddatblygiad cyflym a rhyfeddod
a ellid eu disodli yn y pen draw. Mae syniadau fel robotiaid yn cymryd dros rôl
yr athro yn cael ei siarad am fwy a fwy. Gall robotiaid arbed arian gan nad
fydd angen talu athrawon yn fisol, maen nhw’n ddibynadwy, yn gyfoes a gallu dal
llawer o wybodaeth. Mae DfE (2010) yn dadlau dylai'r Cwricwlwm Cenedlaethol
nodi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth hanfodol yn unig y dylai'r holl blant eu
caffael a'u gadael athrawon i benderfynu sut i ddysgu hyn yn fwyaf effeithiol. Gall
robotiaid diffyg creadigrwydd i wneud hyn. Er hyn mae DfE (2010) yn mynd ymlaen
i esbonio gyda dros 200 o dudalennau, mae'r arweiniad ar y Cwricwlwm
Cenedlaethol yn pwyso athrawon i lawr ac yn gwasgu lle ar gyfer arloesedd,
creadigrwydd, dysgu dwfn ac archwilio deallusol. Gellir dadlau os nad yw
athrawon gallu addysgu mewn dulliau creadigol oherwydd y cwricwlwm, gall
robotiaid gwneud y swydd?
Mae’r fideo isod yn dangos ysgol yn Finland sydd wedi trio
robot yn y dosbarth fel cynorthwyydd dysgu.
Er bod nifer o fanteision i’r robot yn cynnwys helpu plant
mwy swil, hwyl i’r plant a llawer o amynedd mae’r plant yn nodi fod dal angen
athro neu athrawes yn y dosbarth.
Rhestr cyfeirio
Australian Communications and Media Authority. (2013). Like,
post, share: Young Australians’
experience of social media. Canberra:
Newspoll.
Bryant, A. (2016). Technology vs Teachers: Can technology
replace teachers?. [online] Kognity. Available at:
http://www.kognity.com/can-technology-replace-teachers/ [Accessed 12 Apr.
2018].
Dfe (Department for Education) (2010) The Importance of
Teaching: Schools, White Paper. Available at http://www.education.gov.uk/b0068570/the-importance-of-teaching [Accessed
10 Apr. 2018]
Faculty.londondeanery.ac.uk. (2012). The role of the teacher
— E-Learning Modules. [online] Available at:
http://www.faculty.londondeanery.ac.uk/e-learning/small-group-teaching/the-role-of-the-teacher
[Accessed 12 Apr. 2018].
Koehler, M.J. and Mishra, P. (2005) ‘What happens when
teachers design educational technology? The development of technological
pedagogical content knowledge’, Journal of Educational Computing Research, 32:
131-152.
Moore, A. (2012). Teaching and learning. 2nd ed. London:
Routledge.
Schmidt, D., Baran, E., Thompson, A., Mishra, P., Koehler, M.
and Shin, T. (2009). Technological Pedagogical Content Knowledge (TPACK).
Journal of Research on Technology in Education, [online] 42(2), pp.123-149.
Available at: https://files.eric.ed.gov/fulltext/EJ868626.pdf [Accessed 13 Apr.
2018].
Smith, P. and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary
education. London: SAGE.
Stephens, P. and Crawley, T. (1994) Becoming an Effective
Teacher. Cheltenham: Stanley Thomas Ltd.

Beth yw eich barn chi am y term TPCK? A ydych chi'n credu gall robotiaid cymrud dros rol yr athro neu athrawes?
ReplyDeleteCredaf fod y model TPCK yn ddefnyddiol iawn gan fod pob athro neu athrawes gallu ei ddefnyddio mewn unrhyw wers gydag unrhyw bwnc. Mae’r tri phrif derm yn hawdd deall sef pedagogeg, technoleg a chynnwys. Er hyn mae’r termau sy’n croesi yn fach anoddach i ddeall. Gall hyn drysu athrawon a dim ond cadw i’r tri phrif derm. Credaf mai’n bwysig bod esboniad yn cael ei roi i’r athrawon felly bod ganddyn nhw ddealltwriaeth ddofn o’r holl dermau.
ReplyDeleteNid ydw i’n credu bod robotiaid gallu cymryd dros rôl athro neu athrawes gan fod ei rôl yn llawer mwy na dysgu’r cwricwlwm. Yn ôl QUILLIEN I (2012) nid ydyn nhw eisiau ailosod athrawon ond rhaid paratoi ar gyfer y dyfodol a’i bwriad yw bod athrawon yn hwyluswyr ar-lein. Cytunaf gyda hyn oherwydd rhaid defnyddio technoleg i wella addysg a hefyd gwthio athrawon i’w defnyddio i safon uwch.
Rhestr cyfeirio
QUILLEN I. (2012) Can Technology Replace Teachers?. Education Digest [serial online] (4):4-10. Available from: Education Research Complete, Ipswich, MA. Accessed April 20, 2018.