Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch


Sut mae diffinio e-ddiogelwch?

Mae e-ddiogelwch yn derm sy’n dod yn bwysig iawn mewn ysgolion. Dyma ddiffiniad manwl o e-ddiogelwch:

“E-safety is a term which means not only the internet but other ways in which young people communicate using electronic media, e.g. mobile phones.  It means ensuring that children and young people are protected from harm and supported to achieve the maximum benefit from new and developing technologies without risk to themselves or others.” (CSF - Children's Safeguarding, 2017)

Mae plant a phobl ifanc gallu wynebu nifer o risgiau heb sylweddoli. Gallwch roi'r risgiau o e-ddiogelwch mewn i bedwar categori sef cynnwys, cyswllt, ymddygiad a masnachol. Dyma ddisgrifiad o bob risg:

·         Risgiau cynnwys: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn agored i ddeunydd niweidiol e.e. seibr fwlio

·         Risgiau cyswllt: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ar-lein a gychwynnwyd gan oedolion e.e. pornograffi.

·         Risgiau ymddygiad: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn droseddwr neu'n dioddefwr mewn cyfnewid cyfoedion i gyfoedion.

·         Risgiau masnachol: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn agored i hysbysebu masnachol, cynlluniau marchnata neu gostau cudd anaddas.

(Safeguardingni.org, 2014)

Mae risg cynnwys a chyswllt yn gyffredin iawn gyda phlant a phobl ifanc. Mae nifer o gyfryngau cymdeithasol yn galluogi negeseuon i gael ei ddanfon yn breifat neu i bawb i weld e.e. trydar, facebook, snapchat, instagram a whatsapp. Mae hyn gallu arwain at negeseuon cas yn cael ei ddanfon a siarad gyda phobl newydd. Mae’r fideo isod yn dangos stori Lucy.

Mae’n bwysig cofio ydych yn gwybod pwy rydych yn siarad gyda? Oes wir angen siarad â’r person yma ar-lein? Os mae rhywbeth yn ymddangos yn rhyfedd ddweud yw rhywun!


Sut gall e-ddiolgelwch gael ei ddysgu?

Mae e-diogelwch nawr yn rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol Lloegr. Mae’r cwricwlwm yn nodi bod ardal o flaenoriaeth ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1 a 2 i ddefnyddio technoleg yn ddiogel ac yn barchus, gan gadw gwybodaeth bersonol yn breifat, i wybod ble i fynd am gymorth a chymorth pan fo ganddynt bryderon ynghylch deunydd ar y rhyngrwyd (DfE, 2013). Mae Donaldson yn cytuno a bydd hyn yn parhau yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru addysgu dysgwyr sut i ddefnyddio technoleg yn ddiogel a gyda pharch am eraill (Donaldson, 2015).

Mae cyfrifoldeb ar rheini, athrawon a gofalwyr plant i ddysgu’r plant a phobl ifanc am dan y risgiau gall wynebu nhw ar-lein. “In this digital age children are focused on computers and mobile devices from early childhood. It is of utmost importance to teach them how to use these devices properly and appropriately” (Mark and Ratliffe, 2011). Mae llawer o bwysau ar athrawon i ddysgu plant a phobl ifanc am e-ddiogelwch. “As a teacher, you will also need to be aware that there are risks as well as gains in sharing work with the world. It is essential that you repeatedly reinforce eSaftey messages in this context and develop ‘digital wisdom’.” (Smith and Dawes, 2014). Mae Naace (2012) yn diffinio ‘digital wisdom’ fel y gallu i wneud penderfyniadau ystyriol ac ymwybodol ynghylch y defnydd o dechnoleg y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol neu amgylchedd gwaith.

Nid yn unig oes rhaid i’r athrawon addysgu plant am e-ddiogelwch ond hefyd edrych ar eu hôl os ydyn nhw’n gysylltiedig â digwyddiad ar-lein. Yn ôl Ofstead (2014 dyfynnir yn Static.lgfl.net) cyfrifoldeb yr ysgol yw amddiffyn ac addysgu disgyblion a staff yn eu defnydd o dechnoleg a bod ganddynt fecanweithiau priodol i ymyrryd a chefnogi unrhyw ddigwyddiadau lle bu hynny'n briodol.

Dyma sut gall athrawon gweithredu e-ddiogelwch yn eu gwersi:

·         Mae athrawon angen ystyried e-ddiogelwch yn eu cynllunio a pharatoi.

·         Hidlo- Rhan fwyaf o hidlo yn cael ei wneud gan awdurdod lleol trwy ddenfyddio ‘fire walls’ ond rhaid fod yn ofalus nid yw popeth wedi gorchuddio.

·         Cymedroli - Gallwch defnyddio disgyblion hŷn yr ysgol gan fod o’n cymryd llawer o amser i fod yn llysgenhadon digidol a rhoi gwasanaethau i weddill yr ygsol am e-ddiogelwch.

·         Goruchwyliaeth- Enwedig yn y lleoliadau flynyddoedd cynnar rhaid cadw llygaid agos ar sut ydyn nhw’n defnyddio technoleg a hefyd modelu ymddygiad da ar-lein.

(Beauchamp, 2017)

Mae’n bwysig iawn bod athrawon gyda dealltwriaeth ddofn o beth yn union yw e-ddiogelwch er lles ei hun a’r disgyblion. “For any teacher the concept of e-safety must be paramount in the use of any modern technology, not only to protect pupils in their care but to protect themselves in their own careers” (Driscoll et al, 2015). Yn bendant wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol rhaid i athrawon bod yn fodelau rôl a pheidio rhoi cynnwys anaddas eu proffiliau.

Prosiect e-ddiogelwch

Yn ystod Awst 2013 a Rhagfyr 2014 wnaeth pum ysgol gynradd yng Nghroatia cymryd rhan mewn prosiect o’r enw ‘Children’s safety on the internet’. Wnaeth y prosiect yma rhedeg gan nad yw’r topig e-ddiogelwch yn rhan o unrhyw bwnc cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd. Nid oes hyd yn oed wybodaeth fanwl ar ddefnydd cyfrifol a diogel o'r rhyngrwyd yn orfodol i fyfyrwyr yn ôl cwricwlwm Croateg (Kralj, 2016). Dyma oedd nodau'r prosiect:

·         Datblygu a gweithredu maes cwricwlwm yr ysgol ar gyfer diogelwch plant ar y rhyngrwyd.

·         Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr, yr athrawon, y rhieni a'r cyhoedd o faterion sy'n gysylltiedig â diogelwch plant ar-lein mewn synergedd â pholisïau'r UE.

·         Datblygu maes cwricwlwm ysgol seiliedig ar ganlyniadau dysgu ar gyfer diogelwch plant ar y Rhyngrwyd.

·         Datblygu a gweithredu model pedagogaidd cysylltiedig ar gyfer dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr;

·         Gwella medrau ac arbenigedd addysgol yr ysgol gynradd ar gyfer ymagwedd sy'n seiliedig ar fyfyrwyr.

·         Gwella cymwyseddau digidol myfyrwyr a datblygu agwedd beirniadol tuag at ddefnydd cyfrifol o TGCh

(Kralj, 2014)

I ddysgu’r cwricwlwm ‘Children’s safety on the internet’ rhaid i athrawon mynychu cyrsiau. Mae’r tabl isod yn dangos rhan o’r canlyniadau a’r effaith wnaeth y prosiect cael ar y disgyblion.




Mae’r tabl yn dangos gwelliant sylweddol yn agwedd y plant tuag at e-ddiogelwch. Wnaeth y canran o blant yn ateb ddim yn dweud wrth neb yn lleihau ar ôl dysgu o’r cwricwlwm, ac mewn gradd 3 a 4 bydd neb ddim yn dweud wrth unrhyw un. Wnaeth y canran o blant yn dweud wrth riant neu athrawon hefyd cynyddu mewn gradd 1 a 2 a hefyd 3 a 4. Mae hyn yn dangos yr effaith positif wnaeth y cwricwlwm cael ar y plant yng Nghroatia.

Mae’r prosiect yma yn profi faint mae ysgolion gallu helpu disgyblion dysgu am e-ddiogelwch a chodi ymwybyddiaeth.



Rhestr cyfeirio

Beauchamp, G (2016) Computing and ICT in the Primary School, from pedagogy to practice. Routledge: New York.

CSF - Children's Safeguarding, S. (2017). Staying safe online (e-safety) - Merton Council. [online] Www2.merton.gov.uk. Available at: https://www2.merton.gov.uk/health-social-care/children-family-health-social-care/safeguardingchildren/lscb/e-safety.htm [Accessed 10 Apr. 2018].

Department for Education (2013) The National Curriculum England: Framework document (Online) Available at: www.gov.uk/goverment/uploads/system/uploads/attachment_data/file/210969/NC_framework_document_-_FINAL.pdf [accessed 8 Apr. 2018].

Donaldson, G. (2015) Successful Futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Caerdydd: Llywodraeth Cenedlaethol Cymru.

Driscoll, P., Lambirth, A. and Roden, J. (2015). The Primary Curriculum. A Creative Approach. 2nd ed. London: SAGE Publications.

Kralj, Lidija (2014) Children's Safety on the Internet - Development of the School Curriculum. Information and Communication Technology, Electronics and Microelectronics (MIPRO) 37: 593-596. DOI: 10.1109/MIPRO.2014.6859637.

Kralj, L. (2016). E-safety and Digital Skills as Part of School Curriculum. Medijske studije, [online] 7(13), pp.59-75. Available at: https://doaj.org/article/cfad14d18a45453d890461785c3e6c7f [Accessed 10 Apr. 2018].

Mark, Lauren and Ratliffe, T. Katherine (2011) Cyber worlds: New Playgrounds for Bullying. Computers in the Schools 28: 92–116. DOI: 10.1080/07380569.2011.575753.

Naace (2012) Naace Curriculum framework. Available as a PDF online at: https://www.naace.co.uk/naacecurriculum [Accessed 6 Apr. 2018].

Safeguardingni.org. (2014). An exploration of e-safety messages to young people, parents and practitioners in Northern Ireland. [online] Available at: http://www.safeguardingni.org/sites/default/files/sites/default/files/imce/E-safety%20report%20exec%20summary%20200114.pdf [Accessed 10 Apr. 2018].

Smith, P. and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary education. London: SAGE.

Static.lgfl.net. (2014). Inspecting e-safety in schools. [online] Available at: https://static.lgfl.net/LgflNet/downloads/online-safety/LGfL-OS-Ofsted-Inspecting-E-Safety-Jan-2014.pdf [Accessed 11 Apr. 2018].


Comments

  1. Gan fod llawer o risgiau yn wynebu plant wrth defnyddio'r we ac adnoddau ar-lein, ydych chi'n credu bydd o'n haws i blocio tudalenau gall fod yn anaddas neu'n peryglus?

    ReplyDelete
  2. Rydw i’n credu dylai disgyblion cael mynediad i bopeth ar y we yn yr ysgol. Nid yw hyn oherwydd mae popeth yn saff ar-lein ond rhaid addysgu disgyblion sut i sylweddoli risg. “…simply blocking children and young people's access to the internet in schools…meant that they weren't able to access a range of sites that were beneficial for learning, and that they were less likely to develop the understanding of digital safety that they needed to be digitally safe outside of school” (Byron, 2010). Cytunaf gyda Byron (2010) gallwch flocio unrhyw beth sy’n anaddas yn yr ysgol ond unwaith maen nhw du allan o’r ysgol mae ganddyn nhw fynediad i bopeth.

    Rhestr cyfeirio
    Byron, T (2010) Do we have Safer Children in a Digital World?: review of progress since the 2008 Byron Review. Nottingham: DCSF publications

    ReplyDelete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?