Sut gall athrawon dddefnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd?
Beth yw technoleg mewn dosbarth cynradd?
Yn ddiweddar mae technoleg yn cael ei ddefnyddio mwy a mwy
mewn addysg.
“Computing and
digital literacy. These three words encompass a treasure trove of tools and
devices- laptops and netbooks, tablets and MP3 players, cameras, robots,
visualisers and voice recorders, to name but a few” (Smith
and Dawes, 2014).
Mae’r
adnoddau yma gallu cael eu defnyddio i ddysgu unrhyw beth o fewn wahanol
bynciau. Mae technoleg yn annog addysg tu fewn a thu allan i ysgol. Mae O’Leary
a Parker (2004, dyfynnir yn John and Wheeler, 2008) yn pwysleisio’r potensial
sydd gan TGCH i annog dysgu tu allan o’r ysgol. Er ei fod yn seiliedig ar
'werth ychwanegol' trwy oriau ychwanegol, mae'r fenter yn darparu nifer o
bosibiliadau ar gyfer personoli ymhellach. Yma, mae potensial technolegau
newydd i integreiddio dysgu personol, cymunedol, cartref a'r ysgol a'r ysgol yn
hollbwysig.
Gelir dadlau bod technoleg yn degan
newydd i’r plant a ddim wir yn helpu i ddatblygu eu haddysg. Mae Kinash et al
(2012) yn cytuno ac yn credu bod dyfeisiau yn fwy fforddiadwy nawr a dyna yw’r
esboniad am ei ddefnydd cynyddol mewn addysg. Mae Gerger (2014) yn anghytuno
gan fod astudiaeth ddiweddar yn dangos bod lefel ymgysylltiad myfyrwyr a'u
diddordeb i gyflawni tasgau addysgol wedi cynyddu mewn dosbarthiadau a
ddefnyddiodd dechnoleg symudol.
Model SAMR
Cafodd yn fodel SAMR ei gyflwyno gan Ruben Puentedura yn 2006 gyda’r adran
Maine o addysg a’i fenter dysgu technoleg. Mae’r model yn disgrifio'r cylchred
o integreiddio technoleg. Mae'n fframwaith da i gyfeirio ato wrth fyfyrio ar ba
mor dda y defnyddiwn dechnoleg i wella dysgu. (Team, 2018)
Mae model SAMR yn ffordd o gysylltu pedagogeg gyda thechnoleg. Mae’r model
SAMR gallu cael ei ddefnyddio fel fframwaith i asesu a gwerthuso'r dechnoleg
sy’n cael ei ddefnyddio mewn dosbarthiadau. Yn y diagram isod mae'n esbonio
beth mae SAMR yn sefyll amdano.
Yn y fframwaith mae’r ddau gyfnod gwaelod pryd mae technoleg
yn ymddwyn fel rhodder. Mae’r ddau gyfnod top yn rhoi profiadau dysgu hollol
newydd trwy ddefnyddio technoleg.
Dyma enghreifftiau o sut gallwch
gweithredu pob cyfnod ar y framwaith:
·
Substitution- Defnyddio
Google maps yn lle atlas i leoli lle.
·
Augmentation-
Defnyddio Google docs a rhannu’r gwaith trwy ddenfyddio’r ‘cwmwl’.
·
Modification-
Rhoi sylw ar waith plant eraillyn y dosbarth trwy ddenfyddio wefan fel blogger.
·
Redefinition-
Cysylltu gyda plant o amgylch y byd trwy ddefnyddio e.e. blogger i roi
safbwyntiau gwahanol o waith/pwnc/topig.
Mae athrawon gallu defnyddio’r
model fel ysgol i weld lle maen nhw a sut gallen nhw dringo lan yr ysgol. Yn
ddelfrydol, bydd athrawon yn symud ymlaen o wella dysgu i drawsnewid dysgu.
Y dadl
Mae Selwyn
(2016) yn cwestiynu sut ydyn yn penderfynu os mae technoleg yn gwella dysgu. “Just
because a teacher is using an iPad does this automatically enhance learning?” Mae
ymchwil diweddar gan Young (2016) yn dangos bod y gwaith gwirioneddol mae’r
disgyblion yn gwneud ar iPads yn llawer llai na beth mae’r athro yn bwriadu.
Gellir dadlau bod y ddyfais yn denu sylw bant o’r gwaith a’r nodau sydd angen
cyrraedd. Mae John a Wheeler (2008) yn dadlau nid yw athrawon yn agor i
ddefnyddio technoleg yn y dosbarth ac yn cadw i ddysgu traddodiadol. “In
schools, new technologies pose a number of challenges to educators, prompting
them to rethink accepted verities and to deploy ICT in new and innovative ways” Gall athrawon gweld hyn fel mwy o waith
paratoi a diswyddo’r syniad. Mae Beetham a Sharpe (2007) yn dadlau bod
technoleg yn galluogi disgyblion i greu penderfyniadau eu hun. “In
technology-facilitated settings, the role of the teacher in learning activities
is often less direct. Learners must make many decisions for themselves that
otherwise might have been made by the teacher.”
Sut gall athrawon defnyddio technoleg yn effeithiol?
Mae technoleg gallu fod yn help mawr i
athrawon wrth gynllunio, er bod gwell gan rai athrawon gwneud o ar bapur neu yn
ei phen. “I have a tendency to plan everything in my head. I . . . know what my
objectives are, know what I’m trying to achieve and know how I’m going to do it
. . . and I tend not to favour detailed schemes of work” (Vogel and Oliver,
2006 dyfynnir yn Beetham and Sharpe, 2007). Trwy ddefnyddio technoleg mae
athrawon gallu dilyn cynllun gwers strwythuredig a nodi anghenion pob
disgyblion unigol i gymharu â chynllunio’r wers yn ei phen. Gall athrawon
ymchwilio ar y we os mae unrhyw athrawon arall wedi gwneud gwersi tebyg i weld
beth oedd yn llwyddiannus i gynnwys yn wers ei hun. Gall athrawon defnyddio
technoleg i gyfathrebu a helpu ei gilydd trwy rannu syniadau o ran gwersi.
Mae technoleg wedi dod yn
angenrheidiol yn y dosbarth yn ôl y cwricwlwm ond mewn pob pwnc nid dim ond
TGCH. Mae trawsgwricwlaidd yn bwysig iawn ar gyfer cymhwysedd digidol a rhaid i
athrawon ceisio gwneud hyn am bob pwnc. Mae Furió et al. (2015) yn dadlau bod
diolch i dechnoleg symudol, mae gan blant y cyfle i archwilio'r hyn y maent yn
ei ddysgu o amrywiaeth o wahanol safbwyntiau. Mae yna nifer o raglenni ac apps
mae disgyblion nawr gallu defnyddio wrth ddysgu.
VOKI
Mae
VOKI yn rhaglen ar y we mae unrhyw un gallu defnyddio am ddim. Mae’r rhaglen yn
galluogi chi i greu avatar eich hun a dewis ei holl nodweddion e.e. gwallt,
dillad, llygaid. Mae plant gallu gwneud hyn yn amser ei hun neu allu'r rhaglen
cael ei ymgorffori mewn gwersi. Mae yna nodwedd dosbarth ar y rhaglen lle mae’r
athro gallu rhoi pob disgybl mewngofnodi gwahanol, mae’r disgyblion gallu gweld
aseiniadau a’r athro gallu adolygu’r aseiniadau.
Dyma
VOKI wnes i greu o fy hun wrth drio’r gwefan. Nodwedd arall sydd gan y rhaglen
yw gallu gwneud i’r avatar siarad. Rydych allu gwneud hyn trwy gysylltu gyda
meicroffon neu deipio’r neges. Yn y llun uchod gallwch weld fy mod i wedi
ysgrifennu neges ar gyfer y plant os ydyn nhw’n poeni am unrhyw beth. Gallwch
ddefnyddio’r nodwedd yma i gyflwyno tasgau neu blentyn i ateb cwestiwn os nad
ydynt yn hyderus. Credaf fod hyn yn ffordd hwyl i gyfathrebu gyda’r plant.
Blogs
Mae
blog yn ffordd dda iawn i ddisgyblion cyflwyno ei syniadau i gynulleidfa
ehangach na’r dosbarth. Mae blogs gallu cael ei weld o amgylch y byd a
disgyblion o ysgolion, gwledydd a chyfandiroedd gallu trafod materion gwahanol.
Yn ôl (Smith and Dawes, 2014) mae rhannu gwaith ar-lein trwy lwyfan dysgu,
gwefan neu blog yn golygu bod modelu cymheiriaid ac adborth trwy sylwadau ddod
yn rhan naturiol o'r cylch dysgu. Unwaith y bydd y plant yn dysgu sut i wneud
sylwadau o safon ac ymgysylltu â deialogau ystyrlon, mae'r ymdeimlad o gymuned
yn ychwanegu dimensiwn rhyngweithiol i'w gwaith.
Garage
band
Mae Garagae band yn app rydych yn
gallu cael ar iPhone neu gyfrifiadur Mac. Mae’r app yn galluogi chi i chwarae
amrywiaeth o offerynnau a chreu rhythm/ can eich hun. Mae hyn arbed llawer o
arian gan fod bron pob offeryn ar yr app. Gallwch ddefnyddio’r app yma ar gyfer
prosiect cerddoriaeth trwy greu darn o gerddoriaeth i fynd gyda fideo. Gallwch
athrawon hefyd defnyddio’r app i adio effeithiau sain wrth ddweud stori neu
recordio ei hun i bostio ar dudalen we e.e. podcast.
Rhestr Cyfeirio
Beetham,
H. and Sharpe, R. (2007). Rethinking pedagogy for a digital age. London:
Routledge.
Furió, D., Juan, M.C., Seguí, I., Vivó, R. (2015) Mobile
learning vs. traditional classroom lessons: a comparative study. Journal of
Computer Assisted Learning, 31 (3), pp. 189-201.
Gerger, K. (2014) 1:1 tablet technology implementation in the
Manhattan Beach Unified School District: A case study. California State
University, Long Beach.
John, P. and
Wheeler, S. (2008) The Digital Classroom Harnessing Technology for the Future.
London: Routledge.
Kinash,
S., Brand, T., Matthew, T. (2012) Challenging mobile learning discourse through
research: student perceptions of blackboard mobile learn and iPads'.
Australasian Journal of Educational Technology, 28 (4), pp. 639-655.
Selwyn, N.
(2016). Is Technology Good for Education?. Cambridge: Polity Press.
Smith, P.
and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary education. London: SAGE.
Team, D. (2018). The SAMR Model – Enhancing Technology
Integration. [online] Digital Learning Team. Available at:
https://digitallearningteam.org/2012/06/07/the-samr-model-enhancing-technology-integration/
[Accessed 4 Apr. 2018].
Young, K. (2016) Teachers’ Attitudes to using iPads or Tablet
Computers; Implications for Developing New Skills, Pedagogies and
School-Provided Support. TechTrends 60 (2), pp. 183.



Pa mor effeithiol ydych chi'n credu yw'r model SAMR? Hefyd, yay athrawon yn gwneud y defnydd gorau o'r holl technoleg sydd ar gael?
ReplyDeleteCredaf fod y model SAMR yn ddefnyddiol iawn a hefyd yn ymgorffori theori sgaffald Bruner. Mae’r model SAMR yn canolbwyntio ar ddisgyblion yn adeiladu ar ddysgu blaenorol yn annibynnol heb help athro neu athrawes yn union fel sgaffald. Er hyn gall y model gwneud i athrawon teimlo bod nhw ddim yn addysgu yn dda iawn os ydyn nhw ar waelod yr ysgol a gall hyn effeithiol agwedd yr athro/ athrawes tuag at ddefnyddio technoleg.
ReplyDeleteMae athrawon nawr angen defnyddio technoleg yn drawsgwricwlaidd ond nid yw pob athro yn defnyddio technoleg wahanol a newydd. “This is related to the confidence barrier but is further connected to teachers’ pedagogical beliefs, practices and expertise. Too often it seems a lack of familiarity with software and hardware can inhibit projects and desired use.” (Becta, 2004). Credaf fod athrawon angen trio technoleg newydd e.e. y tair enghraifft wnes i roi yn y blog a gallen nhw sylweddoli pa mor hawdd yw’r rhaglenni i ddefnyddio.
Rhestr cyfeirio
Becta (2004) A Review of the Literature on the Barriers to the Up-Take of ICT by Teachers. London: Becta.