Beth ddylai fod yn flaenoriaethau mewn addysg cynradd?
“What does education involve? Is
it about sitting at desks, learning important facts? Does it mean being
absorbed by interesting tasks or solving challenging problems? Should it make
us happy or serious? Should we be put under pressure and extended to our limits?”
(Bartlett and Burton, 2016, t.12)
Mae Bartlett
a Burton (2016) yn cwestiynu beth yw’r ymagwedd gorau tuag at addysg. Mae’n
dangos pa mor bwysig mae rôl yr athro a bod llawer mwy i addysgu na dysgu’r
cwricwlwm. Cafodd y datganiad yma ei ddweud flynyddoedd ar ôl i’r cwricwlwm
cenedlaethol ei gyflwyno yn 1988 yn y Deyrnas Unedig. Pan gafodd y cwricwlwm
cenedlaethol ei gyflwyno roedd tri phwnc craidd sef Saesneg, Mathemateg a
Gwyddoniaeth.
PISA
Mae’r graff yn dangos canlyniadau mathemateg yn 2012 ac mae’r DU yn sgorio
tua’r cyfartaledd. Mae hyn wedi arwain at ysgolion yn rhoi mwy o ffocws ar
lythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth i gymharu â phynciau eraill. Gellir dadlau
fod hyn wedi digwydd yn y DU.
Fideo
Yn y rhan
cyntaf o’r fideo uchod mae gwleidyddion o’r Alban yn trafod beth sy’n
flaenoriaethau mewn ysgolion nhw. Mae’r arweinydd yn sôn am y cynllun ‘Curriculum
of Excellence’ a chafodd ei weithredu mewn ysgolion yn 2010-2011. Pwrpas y
cynllun yw helpu ac annog pobl ifanc i fod yn:
·
Dysgwyr
llwyddiannus
·
Unigolion
hyderus
·
Dinasyddion
cyfrifol
·
Cyfranwyr
effeithiol
(Education.gov.scot, 2018)
Er hyn mae
arweinydd yn y fideo yn sôn am roi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd.
Gallwch ddadlau fod rhoi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd ddim yn galluogi
i bobl ifanc cyflawni'r pedwar nod uchod. A yw hyn i wirioneddol helpu’r
plentyn a’i anghenion personol neu i wneud yn dda yn safleoedd byd?
Dogfen y
llywodraeth:
Rydw i wedi
darganfod y ddogfen llywodraeth yma o 2014 ac yn ei weld yn ddiddorol iawn. Ar
yr adeg yma roedd y llywodraeth yn gweld fod angen blaenoriaeth ar fathemateg,
gwyddoniaeth a thechnoleg. Credaf fod o’n bwysig iawn bod technoleg yn dechrau
dod yn flaenoriaeth gan fod o’n dechrau dod yn rhan fawr mewn addysg. Bydd o’n
hefyd yn manteisio plant i ddefnyddio technoleg o safon uwch gan fydd o’n
paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith.
Adroddiad
Donaldson
Mae Cymru yn
fuan mynd i ddechrau cwricwlwm newydd sy’n wedi cael ei gynllunio gan broffesir
Graham Donaldson. Dylai pwrpas y cwricwlwm yng Nghymru fod plant a phobl ifanc
yn datblygu fel:
• Dysgwyr
uchelgeisiol, galluog, yn barod i'w dysgu trwy gydol eu bywydau
• Mentrus,
cyfranogwyr creadigol, yn barod i chwarae rhan llawn mewn bywyd a gwaith
• Moesegol
a dinasyddion gwybodus o Gymru a'r byd
• Unigolion
iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o
gymdeithas.
(Donaldson,
2015 pp. 26-32)
Credaf fod y cwricwlwm yma yn canolbwyntio llawer mwy ar
blant a’u hanghenion personol a datblygu eu hun fel unigolion. Gellir dadlau
bydd y cwricwlwm yma yn paratoi'r plant ar gyfer bywyd ar ôl ysgol i gymharu
â’r cwricwlwm cenedlaethol sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a
gwyddoniaeth.
Rhestr cyfeirio
Bartlett, S. and Burton, D.
(2016) An Introduction to Education Studies. Sage: London.
Donaldson, G. (2015).
Successful futures: independent review of curriculum and assessment
arrangements in Wales: February 2015
Education.gov.scot. (2018). What is Curriculum for
Excellence?. [online] Available at:
https://education.gov.scot/scottish-education-system/policy-for-scottish-education/policy-drivers/cfe-(building-from-the-statement-appendix-incl-btc1-5)/What%20is%20Curriculum%20for%20Excellence
[Accessed 25 Jan. 2018].
Nces.ed.gov. (2018). Program for International Student
Assessment (PISA) - Overview. [online] Available at: https://nces.ed.gov/surveys/pisa/
[Accessed 28 Jan. 2018].

Yn eich blog, rydych yn nodi gellir dadlau bod Donaldson yn paratoi plant ar gyfer bywyd ar ol ysgol i gymharu a'r cwrwicwlwm cenedlaethol sydd gennym nawr. Beth yw'r pwyntiau i gefnogi'r safbwynt yma? Hefyd beth yw eich barn chi am bynciau sydd ddim yn craidd ond gall pool dada ye'r un mor pwysig e.e addysg gorfforol a ABCh?
ReplyDeleteDyma’r pwyntiau i genfogi bod y adroddiad Donaldson yn paratoi plant ar gyfer bywyd ar ôl ysgol:
ReplyDelete• Adnabod a chasglu cyfleoedd ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
• Parchu anghenion a hawliau eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
• Yn adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
• Yn gosod safonau uchel eu hunain ac yn ceisio ac yn mwynhau her yn barod i'w dysgu trwy gydol eu bywydau.
(Donaldson, 2015)
Credaf fod y pynciau addysg grefyddol a ABCh yn bwysig iawn er nad ydynt nhw’n bynciau craidd. Mae’r ddau bwnc yma yn addysgu nhw am achosion bydd yn effeithio nhw yn ystod rhyw adeg yn ei fywyd. “It is opportunity for them to learn about things that have a direct effect on their lives now and will have an impact on their future” Smith and Dawes (2014). Mae addysg grefyddol yn addysgu disgyblion am y wahanol gredoau gall pobl nhw cwrdd mewn bywyd cael a hefyd gall ABCh helpu gydag unrhyw broblemau personol e.e. gordewdra, bwlio ac addysg rhyw. Mae’r ddau bwnc yn helpu disgyblion fel person ac yn tyfu i oedolyn ac yn fy marn i ddylai fod yn graidd mewn ysgol gyfun.
Rhestr cyfeirio
Smith, P. and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary education. London: SAGE.
Donaldson, G. (2015). Successful futures: independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales: February 2015