Beth ddylai fod yn flaenoriaethau mewn addysg cynradd?


 “What does education involve? Is it about sitting at desks, learning important facts? Does it mean being absorbed by interesting tasks or solving challenging problems? Should it make us happy or serious? Should we be put under pressure and extended to our limits?” (Bartlett and Burton, 2016, t.12)

Mae Bartlett a Burton (2016) yn cwestiynu beth yw’r ymagwedd gorau tuag at addysg. Mae’n dangos pa mor bwysig mae rôl yr athro a bod llawer mwy i addysgu na dysgu’r cwricwlwm. Cafodd y datganiad yma ei ddweud flynyddoedd ar ôl i’r cwricwlwm cenedlaethol ei gyflwyno yn 1988 yn y Deyrnas Unedig. Pan gafodd y cwricwlwm cenedlaethol ei gyflwyno roedd tri phwnc craidd sef Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

PISA

The Program for International Student Assessment (PISA) is an international assessment that measures 15-year-old students' reading, mathematics, and science literacy every three years” (Nces.ed.gov, 2018). Ers i’r profion PISA dechrau yn 1997 mae gwledydd wedi dod yn gystadleuol iawn er mwyn fod yn un o’r gwledydd gorau.

Mae’r graff yn dangos canlyniadau mathemateg yn 2012 ac mae’r DU yn sgorio tua’r cyfartaledd. Mae hyn wedi arwain at ysgolion yn rhoi mwy o ffocws ar lythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth i gymharu â phynciau eraill. Gellir dadlau fod hyn wedi digwydd yn y DU.

Fideo


Yn y rhan cyntaf o’r fideo uchod mae gwleidyddion o’r Alban yn trafod beth sy’n flaenoriaethau mewn ysgolion nhw. Mae’r arweinydd yn sôn am y cynllun ‘Curriculum of Excellence’ a chafodd ei weithredu mewn ysgolion yn 2010-2011. Pwrpas y cynllun yw helpu ac annog pobl ifanc i fod yn:

·         Dysgwyr llwyddiannus

·         Unigolion hyderus

·         Dinasyddion cyfrifol

·         Cyfranwyr effeithiol

(Education.gov.scot, 2018)

Er hyn mae arweinydd yn y fideo yn sôn am roi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd. Gallwch ddadlau fod rhoi blaenoriaeth i lythrennedd a rhifedd ddim yn galluogi i bobl ifanc cyflawni'r pedwar nod uchod. A yw hyn i wirioneddol helpu’r plentyn a’i anghenion personol neu i wneud yn dda yn safleoedd byd?

Dogfen y llywodraeth:


Rydw i wedi darganfod y ddogfen llywodraeth yma o 2014 ac yn ei weld yn ddiddorol iawn. Ar yr adeg yma roedd y llywodraeth yn gweld fod angen blaenoriaeth ar fathemateg, gwyddoniaeth a thechnoleg. Credaf fod o’n bwysig iawn bod technoleg yn dechrau dod yn flaenoriaeth gan fod o’n dechrau dod yn rhan fawr mewn addysg. Bydd o’n hefyd yn manteisio plant i ddefnyddio technoleg o safon uwch gan fydd o’n paratoi nhw ar gyfer y byd gwaith.



Adroddiad Donaldson

Mae Cymru yn fuan mynd i ddechrau cwricwlwm newydd sy’n wedi cael ei gynllunio gan broffesir Graham Donaldson. Dylai pwrpas y cwricwlwm yng Nghymru fod plant a phobl ifanc yn datblygu fel:

       Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i'w dysgu trwy gydol eu bywydau

       Mentrus, cyfranogwyr creadigol, yn barod i chwarae rhan llawn mewn bywyd a gwaith

       Moesegol a dinasyddion gwybodus o Gymru a'r byd

       Unigolion iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

(Donaldson, 2015 pp. 26-32)

Credaf fod y cwricwlwm yma yn canolbwyntio llawer mwy ar blant a’u hanghenion personol a datblygu eu hun fel unigolion. Gellir dadlau bydd y cwricwlwm yma yn paratoi'r plant ar gyfer bywyd ar ôl ysgol i gymharu â’r cwricwlwm cenedlaethol sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth.



Rhestr cyfeirio

Bartlett, S. and Burton, D. (2016) An Introduction to Education Studies. Sage: London.

Donaldson, G. (2015). Successful futures: independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales: February 2015

Education.gov.scot. (2018). What is Curriculum for Excellence?. [online] Available at: https://education.gov.scot/scottish-education-system/policy-for-scottish-education/policy-drivers/cfe-(building-from-the-statement-appendix-incl-btc1-5)/What%20is%20Curriculum%20for%20Excellence [Accessed 25 Jan. 2018].

Nces.ed.gov. (2018). Program for International Student Assessment (PISA) - Overview. [online] Available at: https://nces.ed.gov/surveys/pisa/ [Accessed 28 Jan. 2018].

Comments

  1. Yn eich blog, rydych yn nodi gellir dadlau bod Donaldson yn paratoi plant ar gyfer bywyd ar ol ysgol i gymharu a'r cwrwicwlwm cenedlaethol sydd gennym nawr. Beth yw'r pwyntiau i gefnogi'r safbwynt yma? Hefyd beth yw eich barn chi am bynciau sydd ddim yn craidd ond gall pool dada ye'r un mor pwysig e.e addysg gorfforol a ABCh?

    ReplyDelete
  2. Dyma’r pwyntiau i genfogi bod y adroddiad Donaldson yn paratoi plant ar gyfer bywyd ar ôl ysgol:
    • Adnabod a chasglu cyfleoedd ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
    • Parchu anghenion a hawliau eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd
    • Yn adeiladu eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi yn barod i arwain bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
    • Yn gosod safonau uchel eu hunain ac yn ceisio ac yn mwynhau her yn barod i'w dysgu trwy gydol eu bywydau.
    (Donaldson, 2015)
    Credaf fod y pynciau addysg grefyddol a ABCh yn bwysig iawn er nad ydynt nhw’n bynciau craidd. Mae’r ddau bwnc yma yn addysgu nhw am achosion bydd yn effeithio nhw yn ystod rhyw adeg yn ei fywyd. “It is opportunity for them to learn about things that have a direct effect on their lives now and will have an impact on their future” Smith and Dawes (2014). Mae addysg grefyddol yn addysgu disgyblion am y wahanol gredoau gall pobl nhw cwrdd mewn bywyd cael a hefyd gall ABCh helpu gydag unrhyw broblemau personol e.e. gordewdra, bwlio ac addysg rhyw. Mae’r ddau bwnc yn helpu disgyblion fel person ac yn tyfu i oedolyn ac yn fy marn i ddylai fod yn graidd mewn ysgol gyfun.

    Rhestr cyfeirio
    Smith, P. and Dawes, L. (2014). Subject teaching in primary education. London: SAGE.
    Donaldson, G. (2015). Successful futures: independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales: February 2015

    ReplyDelete

Post a Comment

Popular posts from this blog

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?