Posts

Gall athrawon eu cyfnewid gyda technoleg yn y dyfodol?

Image
R ô l yr athro Mae Faculty.londondeanery.ac.uk (2012) yn diffinio rôl yr athro fel tri pheth: ·          Rheoli'r grŵp ·          Rheoli gweithgareddau ·          Rheoli'r dysgu Mae hyn yn ddiffiniad briff iawn o rôl yr athro gan fod dyletswydd arnyn nhw i wneud llawer mwy. Mae Stephens a Crawley (1994) yn credu bod rôl yr athro yw sicrhau bod y gwersi yn ddiddorol, yn hygyrch a llawer meddwl wedi mynd mewn iddo, cynllunio ar gyfer ac asesu gwaith myfyrwyr, a gweithio'n adeiladol gyda chydweithwyr. I’r gwrthwyneb mae Moore (2012) yn diffinio rôl yr athro “The charismatic teacher is often described as coming into the classroom deliberately unprepared- solely reliant on his or her subject knowledge, inherent popularity, and intangible ability to enthuse and inspire students.” Mae hyn yn mynd erbyn rôl yr athro ystrydebol gan fod o’n nodi bod yr athro ...

Myfyriwch a thrafodwch ystyr a pharamedrau e-ddiogelwch

Image
Sut mae diffinio e-ddiogelwch? Mae e-ddiogelwch yn derm sy’n dod yn bwysig iawn mewn ysgolion. Dyma ddiffiniad manwl o e-ddiogelwch: “E-safety is a term which means not only the internet but other ways in which young people communicate using electronic media, e.g. mobile phones.   It means ensuring that children and young people are protected from harm and supported to achieve the maximum benefit from new and developing technologies without risk to themselves or others.” (CSF - Children's Safeguarding, 2017) Mae plant a phobl ifanc gallu wynebu nifer o risgiau heb sylweddoli. Gallwch roi'r risgiau o e-ddiogelwch mewn i bedwar categori sef cynnwys, cyswllt, ymddygiad a masnachol. Dyma ddisgrifiad o bob risg: ·          Risgiau cynnwys: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn agored i ddeunydd niweidiol e.e. seibr fwlio ·          Risgiau cyswllt: Mae'r plentyn neu'r person ifanc yn cymryd ...

Sut gall athrawon dddefnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd?

Image
Beth yw technoleg mewn dosbarth cynradd? Yn ddiweddar mae technoleg yn cael ei ddefnyddio mwy a mwy mewn addysg. “Computing and digital literacy. These three words encompass a treasure trove of tools and devices- laptops and netbooks, tablets and MP3 players, cameras, robots, visualisers and voice recorders, to name but a few” (Smith and Dawes, 2014). Mae’r adnoddau yma gallu cael eu defnyddio i ddysgu unrhyw beth o fewn wahanol bynciau. Mae technoleg yn annog addysg tu fewn a thu allan i ysgol. Mae O’Leary a Parker (2004, dyfynnir yn John and Wheeler, 2008) yn pwysleisio’r potensial sydd gan TGCH i annog dysgu tu allan o’r ysgol. Er ei fod yn seiliedig ar 'werth ychwanegol' trwy oriau ychwanegol, mae'r fenter yn darparu nifer o bosibiliadau ar gyfer personoli ymhellach. Yma, mae potensial technolegau newydd i integreiddio dysgu personol, cymunedol, cartref a'r ysgol a'r ysgol yn hollbwysig. Gelir dadlau bod technoleg yn degan newydd i’r plant a ddim...

Sut caiff llyfrau gyda lluniau eu defnyddio mewn addysg cynradd?

Image
“Pictures and words together telling a story- it is a magical combination” (Graham 2004: 1) Beth yw llyfrau gyda lluniau? Mae llyfrau gyda lluniau yn llyfr cyntaf mae plant gallu defnyddio i ddarllen, nid o reidrwydd darllen geiriau ond darllen y stori o’r lluniau. “Young children’s first experiences with books will be predominantly centered on picture books. Picture books rely on images to carry the narrative sequence and evaluation, either entirely or in combination with some text” ( Whitehead, 2010, t.129). Mae archwilio'r byd o lyfrau gyda lluniau, darganfod bod efallai y bydd gan bob un ohonynt ffordd unigryw o ddweud stori yn darparu plant gyda mathau arbennig o wybodaeth: •           Gwybodaeth bod gemau gallu cael ei chwarae gyda lluniau a geiriau. •           Gwybodaeth bod lluniau gallu dweud stori gydag a hebddynt eiriau. •        ...

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?

Image
“Teachers, along with parents, are vital in their role of encouraging in young children an awareness of the value and pleasure to be gained through reading and in developing their literacy skills. Children must experience pleasure and interest from reading and in order for them to choose to read themselves from the earliest stages, they must be fully involved in the reading process” (Teachers.org.uk, 2018). Mae’r gwefan yma yn credu dylai darllen am bleser cael ei feithrin yn y blynyddoedd cynnar gan oedolion o’u hamgylch. Mae darllen er mwyn pleser yn bwysig iawn ar gyfer datblygiad y plentyn ei hun. “Children use these story patterns for their own purposes to go over and shape the raw material of their own lives” (Whitehead, 2010, t.112). Mae Whitehead (2010) yn dadlau fod darllen er mwyn pleser gallu helpu plant mewn senarios tebyg a sut fydden nhw’n delio gyda’r sefyllfa. Yn ôl (Readingagency.org.uk, 2018) mae yna dystiolaeth cryf sy’n cysylltu darllen er mwyn pleser a ...

Beth yw manteision dweud stori mewn addysg cynradd?

Image
Mae dweud stori nid yn unig yn hwyl i blant ond mae hefyd yn datblygu ei sgiliau llythrennedd a chreadigol. Yn ô l (TeachingEnglish | British Council | BBC, 2017) dyma beth mae dweud stori gallu cynnig i blant: “ Children have an innate love of stories. Stories create magic and a sense of wonder at the world. Stories teach us about life, about ourselves and about others. Storytelling is a unique way for students to develop an understanding, respect and appreciation for other cultures, and can promote a positive attitude to people from different lands, races and religions.” Mae hyn yn dangos faint o ddyfnder sydd mewn dweud stori a sut mae’n helpu plant mewn bywyd tu allan i’r ysgol. Mae dweud stori yn rhywbeth sy’n bwysig iawn ar gyfer plant gan fod o’n dysgu sgil hanfodol mewn bywyd. Mae dweud stori yn digwydd bron pob dydd wrth drafod gyda theulu a ffrindiau. Mae’n hefyd dysgu plant i fod yn ddisgrifiadol a gorliwio wrth wneud gwaith ysgrifenedig neu ar lafar. Mae’r d...

Beth ddylai fod yn flaenoriaethau mewn addysg cynradd?

Image
  “What does education involve? Is it about sitting at desks, learning important facts? Does it mean being absorbed by interesting tasks or solving challenging problems? Should it make us happy or serious? Should we be put under pressure and extended to our limits?” (Bartlett and Burton, 2016, t.12) Mae Bartlett a Burton (2016) yn cwestiynu beth yw’r ymagwedd gorau tuag at addysg. Mae’n dangos pa mor bwysig mae rôl yr athro a bod llawer mwy i addysgu na dysgu’r cwricwlwm. Cafodd y datganiad yma ei ddweud flynyddoedd ar ôl i’r cwricwlwm cenedlaethol ei gyflwyno yn 1988 yn y Deyrnas Unedig. Pan gafodd y cwricwlwm cenedlaethol ei gyflwyno roedd tri phwnc craidd sef Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. PISA “ The Program for International Student Assessment (PISA) is an international assessment that measures 15-year-old students' reading, mathematics, and science literacy every three years” (Nces.ed.gov, 2018). Ers i’r profi...